INTERVIEW: Siôn Fôn (Bilingual)
- Cardiff JLD
- Jun 17, 2024
- 6 min read

Interview: Our committee member, Heledd Ainsworth, asks Darwin Gray’s Senior Associate Siôn Fôn on his experience as a bilingual solicitor in Wales.
Cyfweliad: Mae un o aelodau o’n pwyllgor, Heledd Ainsworth, yn holi Uwch Gymrawd Darwin Gray, Siôn Fôn ar ei brofiad ef o fod yn gyfreithiwr dwyieithog yng Nghymru.
How much of the Welsh language do you use on a daily basis? How does the Welsh language help you? / Faint o Gymraeg ydych chi’n ei ddefnyddio o ddydd i ddydd? Sut mae’r Gymraeg yn eich helpu chi?
I am a Senior Associate at Darwin Gray and work in the litigation team, specialising in property dispute resolution. The Welsh language is an integral part of my daily life, as I naturally work, live and socialise in Welsh. In the office I converse with my colleagues in Welsh and also regularly provide advice to clients through the medium of Welsh.
Darwin Gray is a great example of a workplace where the Welsh language is used in a professional context. We communicate within the company in Welsh and many of our clients require advice through the medium of Welsh, as we act on behalf of many Welsh public sector organisations. We are delighted to be able to advise them in their preferred language. The ability to provide legal advice in Welsh is a service of which we are proud at Darwin Gray. Furthermore, we are glad to be supporting and promoting the Welsh language more widely, whether that be sponsoring Welsh events or providing bilingual training sessions throughout Wales.
I was recently involved in a high-profile dispute in the High Court, regarding closing a Welsh medium school. During this hearing, arguments were presented our KB barrister entirely through the medium of Welsh and all the pleadings of our case were drafted in Welsh. It was pleasing to see the Welsh language normalised and I’d love to see more litigation conducted in Welsh going forward.
Rwyf yn gyfreithiwr Uwch Gymrawd yn Darwin Gray ac yn gweithio yn y tîm ymgyfreitha, gan arbenigo mewn datrys anghydfodau eiddo. Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’m bywyd beunyddiol, gan fy mod yn naturiol yn gweithio, yn byw ac yn cymdeithasu yn y Gymraeg. Yn y swyddfa rwyf yn sgwrsio gyda’m cydweithwyr yn y Gymraeg ac yn darparu cyngor i gleientiaid yn rheolaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Darwin Gray yn esiampl dda o weithle lle mae’r Gymraeg yn fyw ac yn iach. Rydym yn cyfathrebu o fewn y cwmni yn y Gymraeg ac mae nifer o’n cleientiaid yn dymuno cyngor yn y Gymraeg am ein bod yn ymddwyn ar ran nifer o fudiadau a sefydliadau cyhoeddus Cymraeg. Rydym yn falch o allu eu cynghori yn eu hiaith dewisol. Mae’r gallu i ddarparu cyngor cyfreithiol yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn rhywbeth yr ydym ni yn ymfalchïo ynddo yn Darwin Gray, ac rydym yn falch o fod yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg yn fwy eang, boed hynny’n noddi digwyddiadau Cymraeg neu’n darparu sesiynau hyfforddiant dwyieithog yng Nghymru.
Yn ddiweddar, bûm yn rhan o anghydfod proffil uchel yn yr Uchel Lys, a oedd yn ymwneud â chau ysgol cyfrwng Cymraeg. Yn ystod y gwrandawiad hwn, cyflwynwyd dadleuon ein bargyfreithiwr CB yn gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a drafftiwyd holl blediadau ein hachos yn y Gymraeg. Braf oedd gweld y Gymraeg yn cael ei normaleiddio yn y modd hwn a byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o ymgyfreitha yn cael ei gynnal yn y Gymraeg yn y dyfodol.
2. What do you think are clients’ priorities when seeking legal advice? / Beth yn eich tyb chi yw blaenoriaethau cleientiaid wrth dderbyn cyngor cyfreithiol?
My area of expertise is disputes resolution, therefore I conduct and prepare documents for court cases. As a result, clients require my advice when they are feeling at their most vulnerable and nervous. What my clients’ usual want more than anything is someone to listen to their problems and have a solicitor that understands their point of view and be in their corner. Whilst it is clearly a priority to formulate the best arguments to support their case, the need to listen and empathise is very important.
Clients usually reach out to me during some of the most challenging periods in their lives and often appreciate the opportunity to be able to explain their case in their first language. I sense individuals are more at ease discussing their feelings in their first language, because it is their mother tongue. The ability to speak and listen in Welsh is important, because I can listen to the client’s story from their perspective, without the need for them to have to translate phrases in their heads, meaning I receive more a genuine response.
Fy maes arbenigedd yw datrys anghydfodau, felly rwy’n cynnal ac yn paratoi dogfennau ar gyfer achosion llys. O ganlyniad, mae cleientiaid fel arfer yn dod ataf pan maen nhw’n teimlo ar eu mwyaf bregus a nerfus. Yr hyn sydd yn gyffredin yn y cleientiaid rwyf yn ymdrin â hwy yw’r angen am rywun i fod yn glust i’w problemau a chael rhywun sydd yn deall eu safbwynt nhw. Er ei bod yn amlwg yn flaenoriaeth i lunio’r dadleuon gorau i gefnogi eu hachos, mae’r angen i wrando a chydymdeimlo yn bwysig iawn.
Mae cleientiaid fel arfer yn cysylltu â mi yn ystod rhai o adegau mwyaf heriol eu bywydau ac yn aml yn gwerthfawrogi’r cyfle i fedru esbonio eu hachos yn eu hiaith gyntaf. Rwy’n aml yn gweld unigolion yn newid i fod yn fwy cyfforddus i drafod eu teimladau yn y Gymraeg am mai dyma yw eu mamiaith ac felly maent yn teimlo ei bod hi’n haws i egluro’u hunain a rhannu eu stori yn eu hiaith eu hunain. Dyma pam mae’r gallu i siarad a gwrando yn y Gymraeg yn hollbwysig, oherwydd dwi’n medru gwrando ar stori’r cleient o’u persbectif nhw yn eu hiaith gyntaf, heb yr angen iddynt orfod cyfieithu brawddegau yn eu pennau, sydd yn golygu fy mod yn derbyn persbectif mwy gwreiddiol.
3. What do you enjoy the most about your job? / Beth ydych chi’n ei fwynhau mwyaf am eich swydd?
I enjoy working with people, and what makes this job interesting is that no two days are the same. I could be faced with two different cases that have exactly the same set of facts, but the result or solution for both could be completely different.
Dwi’n mwynhau gweithio gyda phobl, a’r hyn sydd yn gwneud y swydd yma’n ddiddorol yw nad oes yr un dydd yr un fath. Fe allwn fod yn derbyn union yr un ffeithiau ar ddwy achos wahanol, ac fe fyddai’r datrysiad neu’r diweddglo i’r ddau yn hollol wahanol.
4. How do you think the legal landscape will change in Wales in the future? Will there be more or less need for bilingual legal advice? / Sut ydych chi’n meddwl bydd y tirlun cyfreithiol yn newid yn y dyfodol? A fydd yna fwy neu lai o alw am gyngor cyfreithiol dwyieithog?
The Welsh Language (Wales) Measure 2011 gives official status to the Welsh language in Wales and the Act is yet to reach its full potential. The number of organisations and associations bound by the Measure will continue to grow, and as a result there will be an increased demand for advice on the Welsh language, especially through the medium of Welsh. It is important to consider the Welsh and English texts of any new legislation, as they both have equal status.
Additionally, I believe that the Welsh Government’s target of a million Welsh speakers by 2050 will lead to an increase in the number of Welsh speakers which could raise the demand for bilingual advice. Welsh language legislation and laws that apply only to Wales are becoming an increasingly important part of our body of laws, with more rules and measures that need to be considered specifically for Wales and the rights of Welsh speakers. I am therefore confident that the demand will only increase.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru ond rwy’n credu fod ei afael yn parhau i fod yn anorffenedig. O ganlyniad, dwi’n rhagweld y bydd yna esblygiad ac y byddwn yn gweld mwy o fudiadau a chymdeithasau yn cael eu rhwymo gan y Mesur, ac yn sgil hynny y bydd yna fwy o alw am gyngor ar y Gymraeg, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n bwysig ystyried testunau Cymraeg a Saesneg unrhyw ddeddfwriaeth newydd, gan fod gan y ddau statws cyfartal.
Yn ogystal, credaf y bydd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn arwain at gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg a allai godi’r galw am gyngor cyfreithiol dwyieithog. Mae deddfwriaeth a chyfreithiau iaith Gymraeg sy’n berthnasol i Gymru yn unig yn dod yn rhan gynyddol bwysig o’n corff o ddeddfau, gyda mwy o reolau a mesurau sydd angen eu hystyried yn benodol ar gyfer Cymru a hawliau siaradwyr Cymraeg. Rwy’n hyderus felly mai dim ond cynyddu fydd y galw.
Darwin Gray were established over 20 years ago, as an award-winning firm of legal experts providing tailored legal advice to individuals and businesses across a range of legal services. They are a national law firm with offices in South Wales and North Wales.
Comments